SL(6)466 – Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2024

Cefndir a Diben

Uned Cyfeirio Disgyblion yw math o ysgol a sefydlir gan awdurdod lleol sydd â dyletswydd i ddarparu addysg addas i blant a phobl ifanc na allant, oherwydd gwaharddiad, salwch neu fel arall, gael addysg o’r fath mewn ysgol brif ffrwd.

Mae pwyllgor rheoli Uned Cyfeirio Disgyblion yn chwarae rhan strategol a chynghorol wrth nodi a chynnal gweledigaeth, nodau ac amcanion yr Uned Cyfeirio Disgyblion ar y cyd â'r awdurdod lleol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau UCD 2003”) er mwyn:

a) rhagnodi mai pwyllgor rheoli uned cyfeirio disgyblion ("UCD"), yn hytrach na'r awdurdod lleol sy'n ei chynnal, fydd y corff cyfrifol ar gyfer ystyried a ddylid derbyn disgybl sydd wedi'i wahardd yn ôl,

b) ei gwneud yn ofynnol i'r corff cyfrifol ystyried a ddylai disgyblion sydd wedi'u gwahardd yn barhaol gael eu derbyn yn ôl, yn ychwanegol at y rhai sydd wedi'u gwahardd am gyfnod penodedig mewn rhai achosion.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 4 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn rheoliad 6(4)(b), ym mharagraff (i), disgrifir lleoliad y testun presennol i’w ddiwygio yn rheoliad 7(2)(b) o Reoliadau UCD 2003 fel “yn y geiriau o flaen is-baragraff (b)(i)”.

Fodd bynnag, mae geiriau agoriadol rheoliad 6(4)(b) eisoes wedi datgan bod y diwygiad yn cael ei wneud “yn is-baragraff (b)”. Felly, dylai lleoliad y testun i’w ddiwygio fod wedi’i ddisgrifio’n fwy cywir fel “yn y geiriau o flaen paragraff (i)”.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 10 yn diwygio'r Atodlen iReoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 (yr “Atodlen Gwahardd Ysgolion a Gynhelir”).

Yn benodol, mae rheoliad 10(3) yn addasu’r cyfeiriad at reoliad “7(1)” ym mharagraff 1(1) o’r Atodlen Gwahardd Ysgolion a Gynhelir fel ei bod yn darllen fel pe bai’n cyfeirio at reoliad “8(1)”. 

Nid yw’n ymddangos bod y diwygiad hwn yn ateb diben gan fod paragraff 3 yn yr Atodlen i Reoliadau UCD 2003 eisoes yn darparu ar gyfer y newid hwn ym mhob man y mae’n digwydd yn yr Atodlen Gwahardd Ysgolion a Gynhelir.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft

Er bod hwn yn bwynt ar wahân i bwynt adrodd 2 (yn union uchod), dylid ei ystyried ar y cyd ag ef.

Yn rheoliad 10(3), ym mharagraff 1A newydd a fewnosodwyd yn yr Atodlen i Reoliadau UCD 2003, yn is-baragraff (a), mae gwahaniaeth rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg.

Yn y testun Saesneg, y cyfeiriad presennol a addasir yw “7(1)” ond yn y testun Cymraeg gwneir yr addasiad at gyfeiriad at “6(1)”. Mae hyn oherwydd gwall hanesyddol sy'n bodoli yn nhestun Cymraeg paragraff 1(1) o'r Atodlen Gwahardd Ysgolion a Gynhelir.

Felly, mae’r diwygiad a wneir gan y testun Cymraeg yn ceisio addasu’r cyfeiriad anghywir hwnnw at “6(1)” fel ei fod hefyd yn cael ei ddarllen fel “8(1)”. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ymddangos yn ddull priodol gan ei fod yn methu â mynd i'r afael â'r gwall presennol yn nhestun Cymraeg paragraff 1(1) o'r Atodlen Gwahardd Ysgolion a Gynhelir.

4.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft

Yn rheoliad 10(7), yn y paragraff 6 newydd a fewnosodir yn yr Atodlen i Reoliadau PRU 2003, yn y testun Cymraeg, mae “there is substituted” wedi cael ei ei gyfieithu fel “rhodder”. Fodd bynnag, mae’r addasiadau presennol yn nhestun Cymraeg yr Atodlen honno yn gyffredinol wedi defnyddio ffurf ychydig yn wahanol ar y ferf honno, sef “rhoddir”, sydd hefyd wedi'i ddefnyddio ym mharagraff 1A newydd a fewnosodir gan reoliad 10(3) o'r Rheoliadau hyn.

Felly, nid yw’r cyfieithiad o’r paragraff 6 newydd yn gyson ag arddull y testun Cymraeg yn yr Atodlen wreiddiol. Mae’r canllawiau drafftio ym mharagraff 7.30(1) o Ddrafftio Deddfau i Gymru yn argymell y dylai diwygiadau fod yn gyffredinol gyson yn eu harddull â’r testun gwreiddiol.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â'r offeryn hwn:

5.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi nad oes ymgynghoriad wedi’i gynnal mewn perthynas â’r rheoliadau hyn oherwydd:

“[…] bod awdurdodau lleol ac athrawon sy'n gyfrifol am UCDau wedi ein hysbysu bod arferion presennol yn unol â'r diwygiadau arfaethedig”.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Pwynt Craffu Technegol 1: Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r pwynt technegol hwn. Fodd bynnag, gan nad yw’r cyfeiriad yn anghywir a chan fod lleoliad y testun sydd i’w ddiwygio yn glir iawn, nid ystyrir bod angen cywiro hyn er mwyn osgoi camarwain darllenwyr.

Pwynt Craffu Technegol 2: Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno nad oedd yn gwbl angenrheidiol i reoliad 10(3) addasu’r cyfeiriad at reoliad “7(1)”. Fodd bynnag, nid ystyrir bod angen cywiro hyn er mwyn osgoi camarwain darllenwyr.

Pwynt Craffu Technegol 3: Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gwall yn nhestun Cymraeg yr Atodlen i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 (“y Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir”). Nid yw’r pwynt adrodd yn ymwneud â gwall yn Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2024 (“Rheoliadau UCD 2024”) ond â gwall yn y Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir. Diben ac effaith Rheoliadau UCD 2024 yw newid y gyfraith mewn perthynas ag unedau cyfeirio disgyblion. Byddwn yn gwneud y diwygiad angenrheidiol i’r Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir er mwyn cywiro’r gwall y tro nesaf y bydd y Rheoliadau hynny yn cael eu diwygio. Disgwylir i hynny ddigwydd yn ddiweddarach eleni.

Pwynt Craffu Technegol 4: Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y byddai’r ffurf “rhoddir” ar y ferf wedi bod yn fwy cyson o ran arddull â’r testun gwreiddiol, yn hytrach na’r ffurf “rhodder”. Fodd bynnag, ystyriwn fod ystyr y term yn glir fel na fyddai’r darllenydd yn cael ei gamarwain.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

20 Mawrth 2024